Mae’r Help Llaw Mawr yn ôl!
Ar ôl ysgogi dros 7 miliwn o bobl i wirfoddoli yn 2023, mae’r Help Llaw Mawr yn dychwelyd o 7 – 9 Mehefin ledled y DU, gan wahodd pobl i roi cynnig ar wirfoddoli am y tro cyntaf neu roi cynnig ar wirfoddoli ar ôl gwyliau hir.
Mae’r Help Llaw Mawr yn ymwneud â dod â chymunedau at ei gilydd drwy bŵer yr union beth hwnnw – help llaw. Dim ond megis dechrau oedd y llynedd i’r ymgyrch hwn, a fydd gobeithio’n cael effaith barhaol ar nifer y bobl sy’n gwirfoddoli yn y DU.
Bydd mudiadau gwirfoddol ledled Cymru yn hysbysebu cyfleoedd, yn cynnal digwyddiadau ac yn hyrwyddo camau y gallwch eu cymryd i roi o’ch amser. Rydym yn eich annog i ymweld â gwefan Gwirfoddoli Cymru i ddod o hyd i gyfle sy’n addas i chi.
Os ydych chi’n gyfforddus ag adnoddau Saesneg, gallwch hefyd glicio yma i ymweld â llwyfan swyddogol Yr Help Llaw Mawr, lle mae gan lawer o sefydliadau Cymraeg hysbysebion dwyieithog am eu cyfleoedd, neu chwiliwch yn siop apiau eich ffôn clyfar am “Yr Help Llaw Mawr” i ddod o hyd i’n ap swyddogol.
Os ydych chi’n fudiad Cymraeg sy’n awyddus i gymryd rhan yn Yr Help Llaw Mawr, rydym yn falch iawn o ddweud bod gennym ni adnoddau Cymraeg ar gael i’ch cefnogi. Cliciwch ar un o’r botymau isod i lawrlwytho’r adnodd priodol.